Overview
Marie-Skłodowska-Curie Actions Doctoral Candidate – Queen’S Building, Cardiff
Marie-Skłodowska-Curie Actions Doctoral Candidate
School of Engineering Cardiff University
Applicants are invited for a Doctoral Candidate position in the Network, TRAIN-FAST (Training researchers in safe, resilient and economically viable ultra-fast battery charging systems, https://train-fast.dtu.dk/) at Cardiff School of Engineering funded by the European Commission’s Marie Skłodowska-Curie Actions Doctoral Network.
The aim of the post is the following, leading to a PhD degree:
- Develop grid-aware operational strategies for ultra-fast EV charging stations, considering user-driven charging behaviour and grid impacts;
- Develop a techno-economic assessment methodology for evaluating ultra-fast charging deployment viability considering renewable energy uncertainty and grid constraints;
- Deliver validated modelling frameworks for analysing the techno-economic viability of ultra-fast charging stations in the power system.
Expected results:
- Guidelines and grid-aware operational strategies for ultra-fast electric vehicles charging stations, considering user-driven charging behaviour and grid impacts;
- A techno-economic assessment methodology for evaluating ultra-fast charging deployment viability considering renewable energy uncertainty and grid constraints;
- Validated modelling frameworks for analysing the techno-economic viability of ultra-fast charging stations in the power system.
Salary: £43,202 – £48,625 per annum
Mobility Allowance: £499.56 per month (£5994.72 PA)
Family Allowance (if applicable): £464.38 per month (5572.56 PA)
For informal enquires about the post please contact Prof. Liana Cipcigan at CipciganLM@cardiff.ac.uk
For further details about working at Cardiff School of Engineering please contact Karen Baldwin/Chiara Riolo /Bev Jones at Enginadmin@cardiff.ac.uk
This is a Horizon Europe Marie-Skłodowska-Curie Actions, Doctoral Network project. Rules for recruitment are:
MSCA Mobility Rule: Applicants must not have resided or carried out their main activity in the country of the recruiting host institution (for this post, the UK) for more than 12 months in the 3 years prior to the recruitment date. Compulsory national service, short stays such as holidays and time spent by the researcher as part of a procedure for obtaining refugee status under the Geneva Convention are not taken into account.
Doctoral Candidate Rule: Applicants must not already hold a doctoral degree on the date of recruitment. Researchers who have successfully defended their doctoral thesis but have not yet formally been awarded the doctoral degree will not be considered eligible.
Applicants who do not fulfil the Mobility Rule and the Eligibility Criteria CANNOT be considered for the research position.
The Candidate will ideally commence PhD enrolment and employment on 1 April 2027, 1 June 2027 or 1 October 2027.
Selection process
- Applications will be reviewed for eligibility and suitability based on the criteria listed for each position.
- After shortlisting, candidates will be invited for online interviews with the respective recruitment committees.
- The recruiting institution will send out notification of the selection outcome after the online interview.
Date advert posted: Thursday, 19 November 2026
Closing date: Sunday, 10 January 2027
Cardiff University is recognised in independent government assessments as one of Britain’s leading teaching and research universities and is a member of the Russell Group, the UK’s most research-intensive universities. The 2021 Research Excellence Framework found 90% of the University’s research to be world-leading or internationally excellent. Among its academic staff are two Nobel Laureates, including the winner of the 2007 Nobel Prize for Medicine, Professor Sir Martin Evans. Founded by Royal Charter in 1883, today the University combines impressive modern facilities and a dynamic approach to teaching and research. The University’s breadth of expertise encompasses: the College of Physical Sciences and Engineering, the College of Arts, Humanities and Social Sciences; and the College of Biomedical and Life Sciences . Its University institutes bring together academics from a range of disciplines to tackle some of the challenges facing society, the economy, and the environment. More at www.cardiff.ac.uk.
The School of Engineering holds an Athena SWAN Silver Award that recognises good employment practice and a commitment to develop the careers of women working in science. Cardiff University is an equal opportunities employer and positively encourages applications from suitably qualified and eligible candidates regardless of sex, race, disability, age, sexual orientation, gender reassignment, religion or belief, marital status, or pregnancy and maternity. For this vacancy we actively encourage women to apply. We will also consider proposals for flexible working.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment – Research – Cardiff University
Ymgeisydd Doethurol Marie-Skłodowska-Curie Actions (DC13)
Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd
Gwahoddir ymgeiswyr am swydd Ymgeisydd Doethurol yn y Rhwydwaith, TRAIN-FAST (Hyfforddi ymchwilwyr mewn systemau gwefru batri cyflym iawn sy’n ddiogel, yn wydn ac yn economaidd hyfyw) yn Ysgol Peirianneg Caerdydd a ariennir gan Rwydwaith Doethurol Gweithredoedd Marie-Skłodowska-Curie y Comisiwn Ewropeaidd.
Nod y swydd yw’r canlynol, gan arwain at radd PhD:
- Datblygu strategaethau gweithredol sy’n ymwybodol o’r grid ar gyfer gorsafoedd gwefru cerbydau trydan cyflym iawn, gan ystyried ymddygiad gwefru a yrrir gan ddefnyddwyr ac effeithiau ar y grid;
- Datblygu dull asesu technoleg-economaidd ar gyfer gwerthuso hyfywedd defnyddio dulliau gwefru cyflym iawn gan ystyried ansicrwydd ynni adnewyddadwy a chyfyngiadau’r grid;
- Cyflwyno fframweithiau modelu dilys ar gyfer dadansoddi hyfywedd technoleg-economaidd gorsafoedd gwefru cyflym iawn yn y system bŵer.
Canlyniadau disgwyliedig:
- Canllawiau a strategaethau gweithredol sy’n ymwybodol o’r grid ar gyfer gorsafoedd gwefru cerbydau trydan cyflym iawn, gan ystyried ymddygiad gwefru a yrrir gan ddefnyddwyr ac effeithiau ar y grid;
- Dull asesu technoleg-economaidd ar gyfer gwerthuso hyfywedd defnyddio dulliau gwefru cyflym iawn gan ystyried ansicrwydd ynni adnewyddadwy a chyfyngiadau’r grid;
- Fframweithiau modelu dilys ar gyfer dadansoddi hyfywedd technoleg-economaidd gorsafoedd gwefru cyflym iawn yn y system bŵer.
Mae’r swydd hon yn un tymor penodol am 36 mis, sy’n cynnwys dau secondiad wedi’u cynllunio: secondiad academaidd yn y brifysgol dramor sy’n cyd-oruchwylio (Technische Universitat Dortmund) a secondiad diwydiannol yng nghwmni’r mentor (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd). Bydd yr ymgeisydd wedi’i gofrestru ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Caerdydd yn ogystal â chael ei gyflogi gan Brifysgol Caerdydd.
Cyflog: £43,202 – £48,625 y flwyddyn
Lwfans Symudedd: £577 y mis neu £6,294.00 y flwyddyn.
Lwfans Teulu (os yn berthnasol): £536.36 y mis neu £6,436.33 y flwyddyn
Os oes gennych ymholiadau anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Dr Muditha Abeysekera ( AbeysekeraM@caerdydd.ac.uk ) neu’r Athro Carlos E. Ugalde-Loo (Ugalde-LooC@caerdydd.ac.uk).
I gael rhagor o fanylion am weithio yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, cysylltwch â Karen Baldwin/Chiara Riolo/Bev Jones drwy e-bostio Enginadmin@caerdydd.ac.uk
Prosiect gan Rwydwaith Doethurol Marie-Skłodowska-Curie Actions Horizon Europe y Gymuned Ewropeaidd yw hwn. Dyma’r rheolau ar gyfer recriwtio:
Rheol Symudedd MSCA: Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi byw nac wedi cyflawni eu prif weithgaredd yng ngwlad y sefydliad sy’n recriwtio (h.y. ar gyfer y swydd hon, y DU) am fwy na 12 mis yn y 3 blynedd cyn y dyddiad recriwtio. Ni ystyrir gwasanaeth cenedlaethol gorfodol, arhosiadau byr fel gwyliau ac amser a dreulir gan yr ymchwilydd fel rhan o weithdrefn ar gyfer cael statws ffoadur o dan Gonfensiwn Genefa.
Rheol Ymgeiswyr Doethurol: Ni ddylai ymgeiswyr fod â gradd doethurol eisoes ar y dyddiad recriwtio. Ni fydd ymchwilwyr sydd wedi amddiffyn eu traethawd doethurol yn llwyddiannus ond nad ydynt wedi derbyn y radd doethurol yn ffurfiol eto yn cael eu hystyried yn gymwys.
NI ellir ystyried ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r Rheol Symudedd a’r Meini Prawf Cymhwysedd ar gyfer y swydd ymchwil.
Yn ddelfrydol, bydd yr Ymgeisydd Doethurol yn dechrau’r broses ymrestru/cyflogaeth ar gyfer PhD ar 1 Ebrill 2027 / 1 Mehefin 2027 / 1 Hydref 2027.
Y broses ddethol
- Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu am gymhwysedd ac addasrwydd yn seiliedig ar y meini prawf a restrir ar gyfer pob swydd.
- Ar ôl llunio rhestr fer, gwahoddir ymgeiswyr i gyfweliadau ar-lein gyda’r pwyllgorau recriwtio perthnasol.
- Bydd y sefydliad recriwtio yn anfon hysbysiad o ganlyniad y dewis ar ôl y cyfweliad ar-lein.
Dyddiad hysbysebu’r swydd: Dydd Iau, 19 Tachwedd 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 10 Ionawr 2027
Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o Grŵp Russell, sy’n cynnwys 24 o’r prifysgolion ymchwil-ddwys mwyaf blaenllaw ym Mhrydain. Mae gan Brifysgol Caerdydd tua 24,000 o israddedigion a 9,000 o fyfyrwyr ôl-raddedig, sy’n ei gwneud yr unfed brifysgol ar bymtheg fwyaf yn y DU o ran nifer y myfyrwyr. Cafodd 90% o waith ymchwil Prifysgol Caerdydd ei raddio’n swyddogol fel ymchwil sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol yn yr asesiad annibynnol mawr diwethaf o ansawdd ymchwil ar draws prifysgolion y DU, gan wneud y Brifysgol yn un o’r 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd cyffredinol ei hymchwil.
Mae Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn meddu ar Ddyfarniad Arian Athena SWAN sy’n cydnabod arferion cyflogaeth da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod ym maes gwyddoniaeth. Cyflogwr cyfle cyfartal yw Prifysgol Caerdydd sy’n annog ceisiadau gan unigolion cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn annog menywod i wneud cais am y swydd. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu’r Brifysgol, fel y rhai sy’n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu’r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy’n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na’r cyfnodolyn y mae’r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
IMPORTANT: Before applying for this role, please make sure you have the right to work in the country where the role is based. Unless it clearly stipulates within in the job advert above that the hiring company is looking to or able to sponsor applicants it is deemed that the hiring employer will only consider applications from those able to comply with and work in the country where the role is based.














